Return to search

Galanas a sarhaed yng Nghyfraith Hywel

Un ystyr galanas oedd 'lladdedigaeth'. Ar ol Haddedigaeth bodolai cyflwr o elyniaeth, sef galanas, rhwng cenhedloedd y Iladdwr a'r Iladdedig. I ddod A'r elyniaeth i ben roedd yn rhaid dial neu dalu iawndal. Cyfatebai'r t5l hwn a'r gwerth ar fywyd dyn, a elwid yn alanas hefyd. Telid. sarlwed ar y cyd A galanas. Niwed i anrhydedd rhywun a'r iawndal am y fath niwed oedd sarhaed. Mae'r traethawd hwn yn trafod dau gysyniad cysylltiedig ac amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud a hwy. Trafodir braint (statws) aelodau'r gymdeithas a adjewyrchwyd gan werth eu galanas a'u sarhaed. Yr oedd y genedl (y 'kin') yn chwarae rol hanfodol mewn cymdeithas a chan fod. ei haelodau yn talu am alanas gyda'r Iladdwr, ac yn ei derbyn gyda'r Haddedig, rhaid, ei thrafod. Yr oedd y dull o weithredu galanas yn bwysig. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd y gyfundrefn oedd a'i gwreiddiau mewn dial wedi datblygu'n system Hawn dyfeisiau er mwyn tynnu'r ddwy blaid at ei gilydd mewn cymod. Yr oedd oedi a phwyllo yn ganolog. Mae taliadau galanas yn faterion cymhleth yr ymdrinnir a hwy yn fanwl. Trafodir, yn ogystal, gwahanol fathau o ladd. Lladd mewn Ilid oedd y Iladdedigaeth arferol ond roedd achosion mwy difrifol hefyd, fel Iladdedigaethau cudd. Mae'r cyfreithiau yn trafod sawl gwahanol fath o ladd gan gynnwys achosi braw a marw o ganlyniad i esgeulustod coediwr. Yr oedd angen rhyw elfen o fwriad neu esgeulustod er mwyn i genedl y Iladdedig fedru hawlio galanas; ni thelid galanas am weithred hollol ddamweiniol. Fodd bynnag, yr oedd angen bwriad, ae nid esgeulustod yn unig, er mwyn medru hawlio sarhaed. Y mae cyfraith galanas a sarhaed yn datgelu Ilawer ynglgn a chymdeithas yr Oesoedd Canol yng Nghymru a'r delfrydau a rwymodd ddynion at ei gilydd.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:497859
Date January 2003
CreatorsHarris, Meinir Elin
PublisherAberystwyth University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation

Page generated in 0.1035 seconds