Return to search

Cyfaill pwy o'r hen wlad? : y wasg gyfnodol Gymraeg a hunaniaeth Cymry America 1838-66

Darlun 0 oes aur gwasg gyfnodol Gymraeg America 1838-66 a geir yn y traethawd hwn, cyfnod sy'n rhychwantu golygyddiaeth sylfaenydd un o'r cyfnodolion hwyaf ei gyfraniad - Y Cyfaill 0 'r Hen Wlad - a oroesodd tan 1933. Menter arloesol ar ran William Rowlands, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oedd sefydlu'r misolyn crefyddol cyntaf ar gyfer cymuned y diaspora Cymreig yn America yn eu mamiaith. Profodd lwyddiant a threialon mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd tra chyfnewidiol. Roedd y cyfrwng print yn rhan ganolog 0 ddiwylliant y Cymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd cyhoeddiadau megis y Cyfaill yn cyflawni sawl swyddogaeth. Cynigia'r cyfnodolyn ffynhonnell werthfawr fel testun llenyddol a chofnod hanesyddol, a ellir ei ddadansoddi drwy archwilio manylder y disgwrs a'i oblygiadau ehangach i'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu. Y styrir effaith egwyddorion golygyddol unigolyn ar y gynulleidfa 0 gyfranwyr a darllenwyr, a'r modd y maent yn dehongli gwe gymhleth 0 ystyron ar y cyd mewn ymgais i ail-ddiffinio eu Cymreictod. Cawn felly ddarlun 0 arnrywiaeth ideolegol yr oes, a'r modd yr oedd nodweddion crefyddol, gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol yn addasu i her eu gwlad fabwysiedig. Cysylltodd y cyfnodolion hyn rwydwaith 0 Gymry ledled y cyfandir, gan ffurfio cymuned 'ddychmygol' a oedd yn perthyn drwy rannu hanfodion eu cenedligrwydd. Trwy ddefnyddio dulliau dadansoddol thematig a chronolegol, cawn ddadlau fod cyfraniad y wasg gyfnodol yn hollbwysig fel un o'r sefydliadau a oedd yn creu a chynnal hunaniaeth ddeublyg Gymreig ac Americanaidd, fel rhan weithredol o'u diwylliant yn ei amrywiol agweddau a chynnyrch cyfnod penodol. Canolbwyntir ar ddadansoddi prosesau mewnol y Cyfaill a'u gosod yn erbyn cefnlen ei berthynas a chyhoeddiadau eraill y wasg, gan daflu ciledrychiad yn achlysurol at yr hinsawdd newyddiadurol yng Nghymru, llenyddiaeth Saesneg a gwasg ymfudwyr 0 wahanol genhedloedd yn America fel cyd-destun.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:574430
Date January 2012
CreatorsWilliams, Rhiannon
PublisherBangor University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttps://research.bangor.ac.uk/portal/en/theses/cyfaill-pwy-or-hen-wlad-y-wasg-gyfnodol-gymraeg-a-hunaniaeth-cymry-america-183866(1922a7b0-c209-4f3a-80af-086032912316).html

Page generated in 0.013 seconds