Return to search

Archwilio potensial cryfhau'r iaith Gymraeg ac economi'r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau lleol a'r cyfryngau newyddion proffesiynol : achos Ceredigion a Golwg360

Mae'r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu'n braenaru'r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned - gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill - yn sail i asesu effaith y chwyldro digidol yn yr ardal, ac i archwilio'r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau newydd, a'r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:685290
Date January 2016
CreatorsJones, Owain Rhys
ContributorsHaycock, Marged ; Huws, Bleddyn
PublisherAberystwyth University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttp://hdl.handle.net/2160/e972ea8f-5ff9-48e8-9e2b-06c6a7886908

Page generated in 0.0019 seconds