Return to search

Sgiliau Iaith a Gwybyddiaeth Plant Dwyieithog mewn Cyd- destun Iaith Leiafrifol

Bwriad yr ymchwil oedd archwilio effaithfl,ddysg cyfrwng Cymraeg ac agweddau rhieni a1' sgiliau iaith a gwybyddiaeth plant yng.NghYmru er mwyn ychwanegu cyfraniad gwreiddiol i ymchwil cyfredol yn y maes. Fe gasglwyd data mewn pedair sir yng Ngogledd Cymru (Gwynedd, Mon, Conwy a .-. Dinbych). Roedd tri grWp arbrofol: plant 0 gartrefi ble siaradwyd Cymraeg)in unig (ll Cymraeg); plant 0 gartrefi ble siaradwyd Saesneg yn unig (11 Saesneg); a phI ant 0 gartrefi ble siaradwyd cymysgedd 0 Gymraeg a Saesneg (Cytbwys) - h.y. tri grWp 0 blant dwyieithog oedd yn mynychu ysgolion Cymraegldwyieithog. Cymharwyd y rhain yn erbyn grWp rheolydd, sef plant 0 gartrefi ble siaradwyd Saesneg yn unig ac oedd yn derbyn eu haddysg yn bennaf drwy'r Saesneg (Uniaith) - h.y. plant uniaith Saesneg. Roedd y plant i gyd rhwng 7 ac 11 mlwydd oed. Rhoddwyd casgliad 0 brofion i'r holl blant i brofi eu gallu ieithyddol (geirfa, darllen, sillafu) a gwybyddol (meddwl dargyfeiriol, atal sylw, cyfnewid sylw). Profwyd y grWp dwyieithog ar eu sgiliau iaith yn Gymraeg a Saesneg, a dewiswyd profion uwch wybyddol sydd eisoes wedi eu trafod yn y llyfryddiaeth fel rhai oedd yn dangos manteision i blant dwyieithog. Roedd canlyniadau'r ymchwil yn gymysg, gyda manteision i blant dwyieithog mewn Thai tasgau ond nid mewn eraill. Yn gyffredinol nid oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn effeithio 'n negyddol mewn unrhyw ffordd ar sgiliau Saesneg plant II Saesneg, er bod plant 11 Cymraeg a Chytbwys yn adnabod llai 0 eirfa yn Saesneg na 'u cyfoedion. Y n y Gymraeg, roedd tystiolaeth 0 gynnydd i bawb, gyda'r perfformiadau gorau yn cael eu harddangos gan y plant I1 Cymraeg. Roedd agweddau rhieni yn cydberthyn gyda pherfformiad eu plant ar y profion iaith ac yn dra- bositiftuag at y ddwy iaith. Roedd cydberthynas hefyd rhwng defnydd y plant o'r Gymraeg yn gymdeithasol a'u perfformiad ar y profion iaith. o ran sgiliau gwybyddol, nid oedd mantais glir i'r plant dwyieithog a1' y p1'ofion, ond roedd peth awgrym fod plant 0 gartrefi Cytbwys yn uwchraddol 0 ran 1'hai sgiliau cyfnewid. Mae'r canlyniadau hyn yn ychwanegu at go1'ff yr ymchwil rhyngwladol ym meysydd addysg a dwyieithrwydd, ac yn gam yn nes tuag at dda1'bwyllo 1'hieni ac a1'fogi cyd-Iunwyr polisi ynglyn a manteision addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghymru.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:612606
Date January 2013
CreatorsRhys, Mirain
PublisherBangor University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation

Page generated in 0.0647 seconds