Return to search

Cynhysgaeth pob Plentyn yn Ewrop : dyfodiad straeon tylwyth teg gan Charles Perrault, Antoine Galland, y Brodyr Grimm a Hans Christian Anderson i'r Gymraeg (1899-1991)

Testun y traethawd hwn yw taith straeon tylwyth teg o'r canon Ewropeaidd i'r Gyrnraeg, gan ganolbwyntio ar waith Charles Perrault, Antoine GalIand, y Brodyr Grimm a Hans Christian Andersen. Mae hwn yn faes yrnchwil cwbl newydd, ac yn bwnc trawsddiwylIiannol sy'n cwmpasu agweddau cymdeithasol, diwylIiannol, testunol a theoretig. Mae'r traethawd yn olrhain sut y cafodd corff canonaidd 0 straeon tylwyth teg ei greu yn y lle cyntaf, yn sefydlu ac yn diffinio corff 0 addasiadau Cymraeg 0 rai o'r straeon hynny, gydag yrndriniaeth destunol ohonynt, ac yn gosod gweithgarwch addaswyr, golygyddion cylchgronau, cyfrolau a chyfresi, cyhoeddwyr ac adolygwyr mewn cyd-destun hanesyddol. Trwy hyn mae'r astudiaeth yn amcanu i ateb pedwar cwestiwn. Y cyntaf yw pa fersiynau sy'n bodoli yn Gymraeg, felly cynhwysir atodiad yn darparu manylion am y corpws yr wyf wedi ei gasglu o'r cyfnod rhwng 1899 a 1991 i ddiben y traethawd hwn. Yr ail yw pwy oedd y cyfranogwyr yn y broses 0 fabwysiadu'r straeon o'r canon, a rhoddir sylw i gyfraniad addaswyr, golygyddion a chyhoeddwyr unigol. Y trydydd yw pam yr aethpwyd ati i ddarparu fersiynau Cymraeg, ac ymdrinnir a gwerth y straeon tylwyth teg, yr angen am lenyddiaeth fyd yn Gymraeg, yr angen am ddeunydd addysgiadol, yr angen i hyrwyddo'r Gymraeg, a'r angen i lenwi bwlch yn y bolysystem lenyddol Gyrnraeg (theori Even-Zohar). Y pedwerydd yw pa strategaethau cyfieithu a ddefnyddir gan yr addaswyr yn eu testunau, a rhoddir sylw i gartrefoli ac estronoli nodweddion (theori Venuti), ac enwau personol cymeriadau (theori Hermans). Mae'r traethawd yn gosod y gweithgarwch a ddisgrifir yng nghyd-destun maes llenyddiaeth plant, llen gwerin, hanes cyhoeddi a datblygiad addysg Gyrnraeg.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:574457
Date January 2012
CreatorsWyn, Menna
PublisherBangor University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation

Page generated in 0.0205 seconds