Return to search

Hanes Geiriaduraeth yng Nghymru o 1547 hyd 1914 : gyda sylw arbennig i ddylanwad John Walters a William Owen Pughe ar eiriadurwyr 1805-1850

Astudiaeth yw hon o hanes a datblygiad geiriaduron printiedig o 1547, sef blwyddyn cyhoeddi A Dictionary in Englyshe and Welshe gan William Salesbury, hyd ddechrau'r ugeinfed ganrif pan gyhoeddwyd geiriaduron William Spurrell dan olygyddiaeth J. Bodvan Anwyl. Astudir dros ddeg ar hugain o gyfrolau i gyd, cyfrolau a luniwyd i ddiwallu gwahanol anghenion y genedl dros gyfnod o dair canrif a hanner ac sydd, or herwydd, yn amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys. Er mwyn gosod terfynau pendant i'r astudiaeth, fe'i cyfyngwyd i eiriaduron Cymraeg-Lladin/Lladin-Cymraeg, Cymraeg-Saesneg, SaesnegCymraeg a Chymraeg-Cymraeg. Nid ymdrinnir ä geiriaduron Beiblaidd, geiriaduron termau, geiriaduron tafodieithol na'r geirfäu Saesneg-Cymraeg a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Trafodir hefyd rai geiriaduron nas cyhoeddwyd am fod iddynt arwyddocäd yng nghyd-destun gweithgarwch geiriadurol diweddarach. Ystyrir y modd y defnyddiwyd hwy fel ffynhonnell gan eiriadurwyr eraill ac i ba raddau y cawsant eu golygu a'u hymgorffori yn eu gweithiau. Gan fod John Walters a William Owen Pughe yn hawlio Ile mor amlwg yn natblygiad geiriaduraeth ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, rhoddir sylw arbennig i dylanwad y ddau ar weithgarwch geiriadurol rhwng 1805 a 1850. Ceisir dangos hefyd sut y newidiodd agwedd pobl tuag syniadau ieithyddol a geirfa Pughe yn raddol erbyn diwedd y cyfnod clan syiw.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:275343
Date January 2002
CreatorsMorgan, Menna E.
PublisherBangor University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttps://research.bangor.ac.uk/portal/en/theses/hanes-geiriaduraeth-yng-nghymru-o-1547-hyd-1914--gyda-sylw-arbennig-i-ddylanwad-john-walters-a-william-owen-pughe-ar-eiriadurwyr-18051850(dca14c51-baef-4b51-ad1b-cb2a6fcc6eee).html

Page generated in 0.003 seconds