Return to search

Dysgu Cymraeg i fewnfudwyr : llunio llwybr at ddinasyddiaeth gynhwysol Gymreig

Mewnfudo, dinasyddiaeth a dysgu iaith: mae’r ddoethuriaeth yn dod â’r tair thema hon ynghyd—themâu sydd yn esgor ar ddadleuon parhaus yn sgil tueddiadau mewnfudo cynyddol mewn cenedl-wladwriaethau democrataidd. Mae’r prosiect ymchwil amlddisgyblaethol yn gyntaf yn cymhwyso damcaniaethau cyfoes ar integreiddio, megis amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannedd, i achos Cymru ac yn benodol ei sefyllfa ddwyieithog neilltuol. Yn hyn o beth, mae’r ddoethuriaeth yn cymharu ac yn gwrthgyferbynnu modelau o gymhwyso amrywiaeth a dinasyddiaeth er mwyn sefydlu model ffafriol ar gyfer cyd-destun y Gymraeg. Defnyddir Québec fel astudiaeth arbrofol ar gyfer yr ymchwil, drwy ddarparu modelau methodolegol ond hefyd drwy astudio ymarfer da mewn integreiddio mewnfudwyr drwy’r rhaglen francisation. Yn ail, yn sgil gwaith ethnograffig yn Québec ac yna yng Nghymru, mae’r ymchwil yn mynd i’r afael â’r berthynas rhwng dysgu Cymraeg a datblygu cysyniad o ‘ddinasyddiaeth’ a chydlyniant cymunedol ar y lefel leol, sydd yn wahanol i’w ddiffiniad swyddogol gan Lywodraeth y DG. Yn drydydd, ar sail cyfweliadau â swyddogion Llywodraethol, tiwtoriaid iaith a mewnfudwyr grwpiau ffocws ac arsylwadau cyfranogol mewn dosbarthiadau iaith, mae’r ddoethuriaeth yn gwneud casgliadau ynghylch y cyfleoedd a’r rhwystrau i ddatblygu prosiect dinasyddiaeth sydd yn cynnwys ac yn hyrwyddo dysgu Cymraeg i fewnfudwyr, ac o ganlyniad i holl ddinasyddion Cymru.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:699386
Date January 2016
CreatorsHigham, Gwennan Elin
PublisherCardiff University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttp://orca.cf.ac.uk/96723/

Page generated in 0.0016 seconds