Return to search

Pedair ffilm ddogfen a nofel

Cyflwynir yn yr ymchwil hwn bum awr ac ugain munud 0 raglenni dogfen a ffilmiwyd ar fformat clirder uchel ac a gafodd eu darlledu yn ystod 2006 - 2008, ynghyd a rhagymadrodd sy'n trafod hanfodion y ffilm ddogfen. Ceir hefyd gofnodiad 0 darddiad, datblygiad a dylanwad y ffilm ddogfen gyda gwerthusiad 0 ddylanwad yr arloeswyr cynnar. Yn ogystal, cyflwynir gwerthusia5! <:> rol, dyletswydd a dylanwad y cyfarwyddwr fel stonwr a hanesydd, gan gyflwyno nofel fer 40,000 0 eiriau, 185 tudalen, a gafodd ei chyhoeddi ym 2008, ac sydd yn ffurfio rhan o'r gwaith ymchwil. Cafodd y thesis ei ysgrifennu law yn lIaw wrth gyfarwyddo'r rhaglenni dogfen, Yn y rhan gyntaf ceir rhagymadrodd, sy'n adrodd hanes yr ysgogiadau hynny a oedd yn fan cychwyn y rhaglenni dogfen, eu cynnwys a beth oedd y bwriad fel cyfarwyddwr wrth fynd ati i'w cynhyrchu. Felly hefyd y nofel gyfoes sydd wedi cael ei lIeoli ym Mhacistan ac yn Affganistan yn ystod y rhyfel a gychwynnodd yn 2001. Fe gyflwynir trafodaeth am gefndir hanesyddol y ffilm ddogfen ac archwiliad o'i sefyllfa bresennol. 8ydd pob rhaglen yn unigol yn cael ei thrafod ynghyd a dadansoddiad o'r gwaith creadigol a'r dylanwadau arnynt. Fe geir dadansoddiad beirniadol o'r gwaith creadigol gan archwilio'r amryw ffyrdd y gall stor"iwr, boed yn nofelydd sy'n ymdrin gyda ffuglen, neu yn gyfarwyddwr ffilmiau dogfen ffeithiol, ddylanwadu, neu gyfeirio a lIiwio profiad y darllenydd neu'r gwyliwr.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:568795
Date January 2009
CreatorsIwan, Llion Tegai
PublisherBangor University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation

Page generated in 0.0015 seconds