Roedd twf y prifysgolion yn un o ddatblygiadau pwysicaf yr oesoedd canol a gafodd effaith ddwys ar yr eglwys a’r gymdeithas ehangach. Bwriad yr astudiaeth hon yw ystyried y datblygiad hwn yn y cyd-destun Cymreig trwy drafod presenoldeb y Cymry yng nghanolfannau dysg Lloegr a’r cyfandir a gweld effaith eu cyfnod o astudio ar eu gyrfaoedd. Trwy wneud hyn fe ddyfnheir ein dealltwriaeth o effaith y prifysgolion ar Gymru a’r modd yr oedd y Cymry yn rhan o’r gymdeithas ehangach Ewropeaidd. Yn gyntaf astudir y Cymry ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt; yn y sefydliadau hyn, a Rhydychen yn fwy penodol, yr astudiodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Cymreig yr oesoedd canol ac felly gellir cael golwg cyffredinol ar y gymuned academaidd Gymreig. Yna edrychir ar y presenoldeb Cymreig ym mhrifysgol Paris a chanolfannau dysg eraill y cyfandir gan ystyried y ffactorau a arweiniodd at eu presenoldeb yno ac astudiaethau’r Cymry yn y cyd-destun rhyngwladol. Yn dilyn eu cyfnod yn y prifysgolion, arweiniwyd y Cymry ar nifer o lwybrau gyrfa gwahanol ac fe ffocysir ar y rhain ym mhenodau olaf y traethawd. Edrychir ar eu gyrfaoedd mewn dau faes gwahanol, sef yn gyntaf hierarchaeth eglwysig ac yna gwasanaeth cyfreithiol a gweinyddol, er mwyn deall cyfraniad eu haddysg at eu llwyddiant diweddarach. Trwy’r astudiaeth gwelir arwyddocâd y prifysgolion hyn i Gymru’r oesoedd canol.
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:575399 |
Date | January 2011 |
Creators | Emlyn, Rhun |
Contributors | Stöber, Karen ; Schofield, Phillipp |
Publisher | Aberystwyth University |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Source | http://hdl.handle.net/2160/e91f09c7-9f4a-4635-aac2-e012792eb07a |
Page generated in 0.0018 seconds