Ceir yn y traethawd hwn astudiaeth o enwau lleoedd chwe phlwyf (Llanafan Fawr, Llanddewi Abergwesyn, Llanfihangel Abergwesyn, Llanfihangel Bryn Pabuan, Llanwrtyd, a Llanwrthwl) a dwy dref ddegwm (Llysdinam a Rhosferig) yng ngogledd Cantref Buellt yn yr hen sir Frycheiniog. Fe'i seilir ar gronfa helaeth o ffurfiau o'r holl enwau a gasglwyd o ystod eang o ffynonellau ysgrifenedig (o'r nawfed ganrif hyd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif) ac oddi ar lafar. Caiff y ffynonellau hynny eu trafod a'u gwerthuso mewn pennod ragarweiniol. Trefnir y gwaith yn öl trefn y wyddor fesul plwyf, a cheisiwyd nodi lleoliad ac uchder ar gyfer pob enw, gan gynnig dehongliad Ile bo angen. Cynhwysir atodiadau o enwau caeau (wedi eu rhestru dan enw'r daliad) ar ddiwedd pob adran. Ceir pedwar mynegai i'r gwaith; mynegai i'r elfennau Cymraeg a Cheltaidd (sy'n cynnwys ymdriniaethau ä'r elfennau mwyaf cyffredin), mynegai i'r elfennau Saesneg, Ffrangeg, ayb., mynegai i enwau priod, a mynegai i enwau lleoedd gogledd Buellt (sy'n cynnwys croesgyfeiriadau or holl ffurfiau amrywiol).
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:516393 |
Date | January 2001 |
Creators | Fychan, Gwerful Angharad |
Publisher | Aberystwyth University |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Page generated in 0.0013 seconds