Return to search

Defnyddio cyfieithu awtomatig a chof cyfieithu wrth gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg : astudiaeth ystadegol o ymdrech, cynhyrchedd ac ansawdd gan ddefnyddio data Cofnodwyr Trawiadau Bysell a Thracio Llygaid

Mae’r traethawd hwn yn ymchwilio i sut y gall technoleg cyfieithu, sef Cyfieithu Awtomatig a Chofion Cyfieithu, fod o fudd i’r cyfieithydd proffesiynol mewn perthynas ag ymdrech wybyddol, cynhyrchu testun a chynhyrchedd, a sut y gall fod o gymorth o’r herwydd i’r gwaith o greu Cymru ddwyieithog. Ystyrir hefyd yr effaith a gaiff y defnydd o’r technolegau hyn ar ansawdd terfynol y cyfieithiadau, yn ôl cyfieithwyr profiadol a darpar ddefnyddwyr y cyfieithiadau hyn. Defnyddir dulliau ymchwil cofnodi trawiadau bysell a thracio llygaid, ynghyd â theclynnau ymchwil sefydliad Translation Automation Users Society (TAUS), sef dulliau nad ydynt wedi eu defnyddio hyd yma wrth ymchwilio i gyfieithu proffesiynol Cymraeg. Mae’r defnydd o dracio llygaid wrth ymchwilio i ansawdd cymharol hefyd yn wreiddiol yn rhyngwladol, a’r astudiaeth hon yw’r gyntaf i ddefnyddio’r dechnoleg hon i ymchwilio i effaith testunau a ôl-olygwyd ar y darllenydd. Hon yw’r astudiaeth gyntaf o’i bath hefyd i ymchwilio i fuddion ymarferol defnyddio technoleg cyfieithu i’r cyfieithydd proffesiynol Cymraeg y tu fewn i fframwaith rhagdybiaethol-diddwythol, gan ddefnyddio ystadegaeth gasgliadol berthnasol. Dengys y canlyniadau fod modd i’r defnydd o dechnoleg cyfieithu hwyluso gwaith y cyfieithydd yn wybyddol, lleihau’r gwaith wrth gynhyrchu testun ynghyd â chynyddu cynhyrchedd cyfieithwyr. Darganfuwyd hefyd nad yw’r defnydd o dechnoleg cyfieithu yn effeithio’n negyddol ar ansawdd cyfieithiadau terfynol, a hynny yn ôl cyfieithwyr proffesiynol profiadol a’r gymuned Gymraeg sy’n darllen gwaith cyfieithwyr. Y traethawd hwn yw’r cyntaf i ddadlau hyn ar gyfer y Gymraeg. Mae’r ymchwil a gyflwynir yma felly yn gyfraniad sylweddol i Astudiaethau Cyfieithu o safbwynt y Gymraeg, gan mai hwn yw’r traethawd cyntaf i ddadansoddi defnyddioldeb Cof Cyfieithu a Chyfieithu Awtomatig ar gyfer cyfieithwyr y Gymraeg mewn un astudiaeth sylweddol. Ar adeg pan fydd cyfieithu i’r Gymraeg yn tyfu (cf. Pennod 2), cyfraniad gwreiddiol y traethawd hwn yw dangos, trwy arbrofion rheoledig, fod Cyfieithu Awtomatig a Chof Cyfieithu yn medru bod yn arfau gwirioneddol bwerus i gyfieithwyr proffesiynol y Gymraeg.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:742871
Date January 2018
CreatorsScreen, Benjamin
PublisherCardiff University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttp://orca.cf.ac.uk/111362/

Page generated in 0.0019 seconds