Term i ddisgrifio'r ffenomen o gyfuno dwy iaith mewn un datganiad yw 'cyfnewid cod'. Mae defnyddio geiriau ac ymadroddion Saesneg yn nodwedd gyffredin o Gymraeg llafar, anffurfiol nifer o siaradwyr. Nid yw'r ffenomen hon yn unigryw i'r Gymraeg; yn rhyngwladol, ceir cymdeithasau sy'n defnyddio cyfnewid cod, gan gynnwys Canada ffrancoffon. Yn ogystal â bod yn nodwedd o iaith lafar, mae'n nodwedd hefyd mewn rhai testunau llenyddol. Bwriad y traethawd hwn yw astudio rhai o'r testunau hyn, gan archwilio patrymau o gyfnewid cod a'u cymharu â damcaniaethau ysgolheigion eraill. Datblygwyd methodoleg wreiddiol i ddadansoddi'r testunau'n ieithyddol gan dynnu ar fethodoleg ysgolheigion megis Callahan (2004) a Montes-Alcalá (2013b; 2015). Yn ogystal â thrafodaeth ieithyddol, dadansoddir y testunau yng ngoleuni damcaniaethau ôl-drefedigaethedd ac ôl-foderniaeth, gan bontio maes ieithyddiaeth a theori lenyddol er mwyn archwilio pa fath o destunau sy'n defnyddio cyfnewid cod ac i ba bwrpas. Rhennir y traethawd yn bedair prif adran. Mae'r bennod gyntaf yn cynnig arolwg o'r maes ac yn trafod gwaith ysgolheigion sy'n astudio cyfnewid cod, yn ogystal â darparu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol ar gyfer Cymru a Chanada. Mae'r ail bennod yn trafod methodoleg yr ymchwil presennol, yn arbennig y fethodoleg a ddefnyddir i ddadansoddi'r testunau. Yna, symudir i drafod canlyniadau'r gwaith codio (penodau 3-8), cyn trafod y corpws yn ei gyfanrwydd (pennod 9). Yn y bennod olaf, ehangir y drafodaeth gan ddadansoddi'r testunau fel llenyddiaeth yn hytrach na'u trin fel corpws ieithyddol. Bwriad y traethawd hwn yw deall elfennau o Gymru a Chanada'n well - eu hieithoedd, eu llenyddiaeth a'u cymdeithasau - drwy drafod y defnydd o gyfnewid cod mewn sampl o'u llenyddiaeth greadigol. Defnyddir methodoleg wreiddiol, sy'n defnyddio elfennau rhyngddisgyblaethol blaengar, gan gyfrannu at faes cyfnewid cod llenyddol a datblygu ar y modelau sy'n bodoli eisoes. Gobeithir y bydd yr astudiaeth yn cyfrannu at y drafodaeth ryngwladol wrth gymharu cyfnewid cod mewn llenyddiaeth o ddwy gymdeithas a chanddynt ieithoedd lleiafrifol.
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:768027 |
Date | January 2018 |
Creators | Orwig, Sara |
Publisher | Cardiff University |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Source | http://orca.cf.ac.uk/118228/ |
Page generated in 0.0018 seconds