Diben yr astudiaeth hon oedd ymchwilio’r ddarpariaeth iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng-Saesneg, Cyfnodau Allweddol 2 a 3 er mwyn dirnad i ba raddau y gall gynhyrchu siaradwyr Cymraeg. Agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymru ddwyieithog a ysgogodd y gwaith ymchwil hwn. Ymhellach, rhydd pwyslais y Cwricwlwm Cenedlaethol ar sgiliau llafaredd, ynghyd ag argymhelliad parhaus Estyn a Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau cyfathrebol y disgyblion gyd-destun i’r astudiaeth. Gosodwyd y gwaith ymchwil o fewn fframwaith cysyniadol yn seiliedig ar egwyddorion dysgu ac addysgu ail iaith y Cyrchddull Cyfathrebol cyfredol. Cyfraniad gwreiddiol y gwaith ymchwil hwn i’r maes dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith yw dangos bod y ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgolion a gyfranogodd yn pwyso’r glorian ar ochr dulliau addysgu ail iaith traddodiadol; dulliau sydd yn arwain at anghyseinedd ymarferol ac, o ganlyniad, wedi tanseilio ffydd yn eu cymhwysedd i ddatblygu siaradwyr. Arsylwyd mewnbwn ieithyddol a oedd wedi’i gyfyngu i eirfa a strwythurau iaith ynysedig ac a oedd, ar y cyfan, yn camgynrychioli natur yr iaith darged. Tueddai ymarferion llafar ddatblygu o ymarferion mecanyddol i gyfnewidiau trafodaethol gyda diffyg pwyslais ar ddefnydd iaith at ddibenion ystyrlon. Dadleuir nad oedd y mewnbwn ieithyddol, y deunyddiau dosbarth na’r gweithgareddau yn cyfrannu at ddatblygu hunaniaeth ddiwylliannol na sgiliau cyfathrebol y disgyblion. Cynigia’r gwaith ymchwil hwn fewnwelediad gwerthfawr i wersi Cymraeg drwy astudiaeth feintiol fanwl o nodweddion yr addysgeg a fabwysiedir i addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng-Saesneg. Yn sgil adolygiad Dyfodol Llwyddiannus Donaldson (LlC, 2015a) o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru ddwyieithog, gall canlyniadau’r ymchwil hwn gyfrannu at sicrhau nad yw’r un addysgeg Gymraeg ail iaith yn parhau o dan gyfundrefn ‘ddiwygiedig’.
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:731295 |
Date | January 2016 |
Creators | Beard, Ashley Charlotte |
Publisher | University of Wales Trinity Saint David |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Source | http://repository.uwtsd.ac.uk/808/ |
Page generated in 0.0019 seconds