Return to search

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Feirniadol am yr Iaith Gymraeg, a’i Gyfraniad at Gynllunio Ieithyddol Cynhwysol yng Nghymru

Ymdrinia’r traethawd hwn â dwy wedd ar gynllunio ieithyddol i adfywio’r Gymraeg yng Nghymru heddiw, a’r berthynas rhyngddynt. Y wedd gyntaf yw Hyfforddiant Ymwybyddiaeth am y Gymraeg i staff sefydliadau cyhoeddus wedi Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac yn neilltuol, esblygiad ffurf feirniadol arno. Y wedd arall yw’r model cynllunio ieithyddol cynhwysol a arddelir gan Lywodraeth Cymru ers 2003, model a bennai i’r gymdeithas sifil rôl bartneriaethol allweddol yn y prosiect adfywio ieithyddol. Olrheinir yn gyntaf ddatblygiad y mudiad ymwybyddiaeth iaith ym maes addysgeg dysgu iaith yn Lloegr yn negawdau olaf yr 20fed ganrif, ac esblygiad ei bersbectifau beirniadol. Olrheinir wedyn ddatblygiad Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghymru, nid ym maes addysgeg iaith, ond fel ymyriad eilaidd gan gyrff is-lywodraethol i esbonio i’w staff y gofynion statudol newydd iddynt drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Gofynnai hyn am gryn newid arferion, wedi tros 450 mlynedd o eithrio’r Gymraeg o beuoedd swyddogol. Esblygodd cyfeiriadedd beirniadol ar yr hyfforddiant i gyflwyno’r cyd-destun ehangach i hyfforddeion, sef ffurf a amlyga natur ideolegol polisïau ieithyddol. Ar sail tystiolaeth wreiddiol ac eilaidd, gan gynnwys arolwg ansoddol a meintiol o hyfforddeion, dadleuir ei fod yn borth mynediad pwysig i ddinasyddion i wybodaeth a disgwrs prin am y Gymraeg. O droi at fodel cynllunio ieithyddol y Llywodraeth, olrheinir rhethreg gynhwysol testunau polisi, a chymherir y rhethreg â’r cynhyrchion polisi a gafwyd. Cyflwynir tystiolaeth mai prin fu’r ymyriadau cynhwysol, ac y methodd y prif asiantau cynllunio ieithyddol ag adnabod potensial Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Feirniadol fel porth mynediad arwyddocaol i ddisgwrs cynhwysol. Argymhellir y dylid cynnwys yr hyfforddiant yn yr amrediad o brif ymyriadau a ystyrir gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r model cynhwysol, a’i brif-ffrydio mewn sawl pau gymdeithasol er cynyddu mynediad dinasyddion at wybodaeth a disgwrs ieithyddol, gan fraenaru’r tir ar gyfer ‘newid ymddygiad ieithyddol’.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:649425
Date January 2015
CreatorsEaves, Steve
PublisherCardiff University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttp://orca.cf.ac.uk/73554/

Page generated in 0.002 seconds