Return to search

S4C : hanes ymgyrchu, sefydlu ac adolygu sianel, 1981-1985

Mae'r astudiaeth hon yn dadansoddi a dehongli hanes sefydlu Sianel Pedwar Cymru (S4C) fel sianel newydd yn nhirlun darlledu Cymru gan drafod, mewn manylder, gyfnod prawf y sianel rhwng 1981-1985. Mae'r astudiaeth yn archwilio paham yr oedd dirfawr angen sianel ar wahan ar gyfer rhaglenni teledu Cymraeg ac yn trafod sut aeth trigolion Cymru ati i'w hennill trwy ddulliau cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol. Prif ffocws y traethawd yw dadansoddi'r hyn a gafwyd yn dilyn yr ymgyrch hirhoedlog i sefydlu S4C, gan holi a sefydlwyd sianel a feddai ar y rhinweddau a ddeisyfwyd gan yr ymgyrchwyr. Mae'r astudiaeth yn ystyried y sialensiau a wynebwyd gan yr Awdurdod newydd, a chan swyddogion a staff y sianel wrth iddynt gynllunio a chyflwyno gwasanaeth teledu Cymraeg cynhwysfawr, y polisi'au a ffurfiwyd ganddynt a'r cydberthynasau a saemiwyd gyda'r BBC, HTV, Channel 4 a'r cynhyrchwyr annibynnol. Mae'r traethawd hefyd yn pwyso a mesur ymateb y gynulleidfa i'r gwasanaeth a'r rhaglenni ac yn ystyried sut yr aeth y Swyddfa Gartref ati i adolygu'r sianel ar ddiwedd ei chyfnod prawf ym 1985. Trwy gyfrwng ddadansoddiad manwl o gofnodion y sefydliadau darlledu ym Mhrydain, erthyglau o'r wasg a chyfweliadau gyda nifer o'r unigolion fu'n allweddol i fenter S4C, darlunnir sut y llwyddodd y sianel i newid tirlun darlledu Cymru yn llwyr. Bu'r partneriaethau unigryw a ffurfiwyd rhwng y sianel a'i chynhyrchwyr annibynnol a'r darlledwyr eraill yn fodd o gyflwyno bwrlwm newydd i'r diwydiant darlledu a'r arlwy cyfrwng Cymraeg, bywiogrwydd a fu'n allweddol i Iwyddiant y sianel gyda'i chynulleidfa yn ystod y cyfnod prawf Amlinellir hefyd sut y llwyddodd swyddogion y sianel weithredu strategaeth a wreiddiodd y sianel yn ddwfn yn ffyniant economaidd Cymru gan ei gwneud yn anodd os nad yn amhosibl ei diddymu wedi tair blynedd o arbrawf.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:678516
Date January 2010
CreatorsPrice, Elain
PublisherSwansea University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttps://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42697

Page generated in 0.0018 seconds