Return to search

Y capel Cymraeg : cymdogaeth a pherfformiad

Yn yr ymchwil hwn ystyrir sut y gall astudiaethau perfformiad gynnig mewnwelediad i sut y mae cymdogaeth y capel Cymraeg - trwy weithredoedd perfformiadol - yn cael ei chreu, ac yn perthnasu at y capel. Trwy gyfuno damcaniaeth perfformiad ac ymarfer yng nghyd-destun y capel Cymraeg, mae’r ymchwil hwn yn gyfraniad gwreiddiol i’r meysydd dan sylw. Defnyddir syniadaeth Diana Taylor o’r archif a’r repertoire er mwyn esbonio bod perfformiad yn fodd dilys o fynegi hunaniaeth a bodolaeth. Trafodir wedyn fod modd cromfachu gweithgarwch perfformiadol er mwyn ei ddadansoddi. Cyfeirir at syniadaeth yr anthropolegydd Victor Turner fod perfformiad, o’i gromfachu, yn cynnig dramâu cymdeithasol (social drama) a fedr ddatgelu rhywfaint am hunaniaeth cymdogaeth. Arddelir methodoleg Ymarfer fel Ymchwil yn rhannol, mewn perthynas a syniadaeth ffenomenolegol, er mwyn trafod gweithgarwch byw repertoire'r capel. Er mwyn gosod sail i hyn, trafodir cyd-destun gweithgarwch perfformiadol y capel drwy edrych ar y berthynas hanesyddol a fodola rhwng y capel Cymraeg, cymdogaeth a pherfformiad, gan ddadlennu fod y berthynas rhwng y rhinweddau hyn wedi bod yn bresennol yn hanesyddol ac yn dylanwadu ar wead y rhinweddau heddiw. Trafodir profiadau o gyd-weithio’n ymarferol gyda thri chapel. Perfformiwyd darn unigol yn edrych ar fy mherthynas at y capel ar ffurf atgofion, wedyn gweithiwyd gyda’r capeli i greu perfformiadau a oedd yn dadlennu eu perthynas hwythau at eu capel. Bwriad y gwaith ymarferol oedd profi’n ymgorfforedig y modd y gall perfformiad glymu pobl at ei gilydd mewn cymdogaeth ac at ofod arbennig. Cyflwynir fel rhan o’r ddoethuriaeth berfformiad unigol i’r arholwyr, a dogfennaeth ar ffurf lluniau anffurfiol o berfformiadau’r capeli (gan gydnabod nad yw’r lluniau hynny, yr archif, yn medru cyfleu anian y gwaith.) Cesglir bod y repertoire yn bwysig er mwyn deall cyd-destun y capel Cymraeg, a bod defnyddio Ymarfer fel Ymchwil wedi caniatáu amlygiad o’r repertoire. Trwy’r ymarfer, gwelwyd bod y capel Cymraeg yn dibynnu ar egni’r gymdogaeth i’w ddiffinio drwy weithredoedd perfformiadol.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:688153
Date January 2016
CreatorsWilliams, Rhiannon Mair
PublisherUniversity of South Wales
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttps://pure.southwales.ac.uk/en/studentthesis/y-capel-cymraeg-cymdogaeth-a-pherfformiad(f3367008-05f2-46c7-972d-6177d70f3a4c).html

Page generated in 0.0018 seconds