Amcan y traethawd hwn yw ystyried sut gall egwyddorion rhyddfrydol gyfrannu at oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y broses o adfer ieithoedd lleiafrifol. Eir ati i ystyried y mater hwn trwy osod dau gwestiwn ymchwil penodol. Yn gyntaf, gofynnir sut dylai rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Yn ail, ystyrir i ba raddau y mae rhai o’r camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu nod o’r fath yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol. Rhennir y traethawd yn ddwy ran, ac fe drafodir y cyntaf o’r cwestiynau hyn yn ystod y rhan gyntaf, a’r ail gwestiwn yn ystod yr ail ran. Yn achos y cwestiwn cyntaf, dangosir nad oes dim byd annerbyniol, o safbwynt rhyddfrydol, ynglŷn ag adferiad iaith. Ond, ar yr un pryd, gwelir na all rhyddfrydwyr gysyniadoli’r dasg fel rhywbeth sy’n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, gan y byddai hynny’n arwain at broblemau moesol sylweddol. O ganlyniad, cesglir taw fel gweithred dderbyniol y dylid cysyniadoli adferiad iaith; un o’r amrediad eang o bethau sy’n gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol-democrataidd geisio’u cyflawni pan fo hynny’n adlewyrchu casgliadau a ddaethpwyd iddynt ar sail trafodaethau democrataidd agored a theg, ond eto nid rhywbeth sy’n hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Yn achos yr ail gwestiwn, cydnabyddir fod rhai polisïau adferol yn camu dros drothwy’r hyn a ystyrir yn dderbyniol gan ryddfrydwyr. Fodd bynnag, dadleuir mai eithriadau’n unig yw’r rhain, a bod y mwyafrif helaeth o’r polisïau a weithredwyd wrth geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gydorwedd yn gwbl gyfforddus gydag egwyddorion rhyddfrydol.
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:511220 |
Date | January 2009 |
Creators | Lewis, Dafydd Huw |
Contributors | Jones, Richard Llywelyn Wyn ; Elias, Anwen |
Publisher | Aberystwyth University |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Source | http://hdl.handle.net/2160/cb7b46b3-2781-4d11-8705-76515015a2f1 |
Page generated in 0.0014 seconds