Return to search

Asesiad o Effeithiolrwydd Strategaethau Ieithyddol Cymunedol Cyfredol yng Nghymru

Asesiad yw'r traethawd hwn o effeithiolrwydd y Mentrau Iaith yng Nghymru. Mewn cyd-destun a?u gwelodd yn esblygu i fod yn brif actorion a gweithredwyr polisi tuag at yr iaith ar y gwastad lleol, hanfod ein dadl yw bod eu sefydlu wedi bod yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch pwysigrwydd y 'cymunedol? ar gyfer hybu adfywiad ieithyddol. Ar gyfer archwilio?r wedd hon olrheinir datblygiad y cysyniad o gymuned ynghyd ? dau gysyniad cysylltiol, datblygu cymunedol ac ymbweru cymunedol. Llunnir model cymunedol cyfoes, a ganiat? edrych ar newidiadau a ddigwydd pan symudir oddi wrth gymunedau mwy sefydlog tuag at rai mwy llac eu gwead. Ystyrir sut y daethpwyd i ddeall ystyr y cymunedol yn y cyd-destun Cymreig, sut y bu i gymunedau'r Gymraeg brofi newidiadau pellgyrhaeddol, ond hefyd sut y bu i'r dimensiwn hwn barhau?n ddylanwadol yn y ddisgwrs ynghylch sicrhau eu dyfodol, a ffurfiannol wrth lunio polisi. Trafodir perthnasedd cynllunio ieithyddol ac olrheinir tarddiad y Mentrau, ynghyd ? sylwebaeth gynnar ar eu rhagoriaethau a'u gwendidau posib. Gan gyflwyno persbectif damcaniaethol newydd, fe gynigir model o'r Gymraeg mewn perthynas ?'i chymunedau heddiw- un a'i gw?l yn symud oddi wrth y tiriogaethol ble mae?n fwyafrifol a'r rhwydweithio yn ddigymell, tuag at un leiafrifol ble y rhwydweithir yn ymwybodol a dewisol. Gosodir pedair astudiaeth achos (Mentrau Iaith M?n, Gwendraeth-Elli, Conwy a Chaerdydd) oddi fewn i fatrics er mwyn adlewyrchu'r ddeinameg gymunedol-ieithyddol a gynhwysir yn y model. Astudir dogfennaeth berthynol, a?i gyfuno ? chyfweld ansoddol dwys, i holi sut y cymhwysa?r Mentrau?r gysyniadaeth gymunedol y dadleuwn sy?n greiddiol i?w gweledigaeth. Prif gasgliadau?r ymchwil yw bod y Mentrau yn ymdrechu yn egn?ol a chydwybodol i hyrwyddo?r Gymraeg yn y cyd-destun cymunedol, ond os am gynyddu eu heffeithiolrwydd, fod y dimensiwn hwn yn un y dylid ei gyflenwi ? strategaethau mwy cydlynol a chenedlaethol, gyredig gan fwy o ewyllys gwleidyddol.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:530514
Date January 2011
CreatorsGlyn, John
ContributorsWyn Jones, Richard ; Royles, Elin
PublisherAberystwyth University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation

Page generated in 0.0016 seconds