Mae’r traethawd hwn yn archwilio’r portread o amlddiwylliannedd yn ne Cymru a geir mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg er 1990. Trwy ddefnyddio cysyniad theoretig yr ‘arall’ a damcaniaethau ôl-drefedigaethol cysylltiedig, mae’r astudiaeth hon yn ceisio osgoi pegynu rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith Cymru, fel y mae astudiaethau eraill ar amlddiwylliannedd Cymreig wedi’i wneud. Eir ati, yn hytrach, i drafod sut y mae’n bosib i gymeriadau o unrhyw gefndir ethnig, hiliol, crefyddol neu ieithyddol brofi aralledd oherwydd safbwyntiau goddrychol gwahanol, ac oherwydd y cyfuniad o wahanol elfennau sy’n creu hunaniaeth yr unigolyn. Trwy ystyried yr hybridedd hwn a berthyn i’r cymeriadau a’r nofelau fel ei gilydd, cynigir ffordd newydd o feddwl am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Gesyd fframwaith theoretig trwy olrhain datblygiad cysyniadau aralledd a hybridedd yng ngwaith Hegel, de Beauvoir, Fanon, Said a Bhabha, gan fanylu ar berthnasedd eu damcaniaethau i ddadleuon am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Ceir wedyn bedair pennod o ddadansoddi testunol. Mae’r cyntaf yn tynnu ar waith Bakhtin i drafod sut y mae awduron yn defnyddio nofelau hybrid, aml-leisiol fel gofod hybrid lle y gall cymeriadau archwilio’u haralledd. Defnyddia’r ail bennod ddamcaniaethau Bhabha am yr ystrydeb drefedigaethol a phegynau deuaidd i ystyried sut y mae aralledd a hybridedd cymeriadau’r nofelau yn herio delweddau ystrydebol a phegynol o Gymreictod. Mae’r drydedd bennod yn troi at ystrydebau am y siaradwyr Cymraeg a Saesneg a thrafodir sut y mae’r cymeriadau yn defnyddio lleoliad y dafarn er mwyn eu herio. Ystyria’r bedwaredd pennod effaith mudo a mewnfudo ar aralledd y mudwyr yng ngoleuni theorïau Said am alltudiaeth. Daw’r traethawd i gasgliad ar berthynas y portread llenyddol hwn ag amlddiwylliannedd yn y byd go iawn, gan awgrymu bod darllen testunau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd yn gallu’n annog i ddatblygu’n genedl fwy cynhwysol.
Identifer | oai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:649430 |
Date | January 2015 |
Creators | Sheppard, Lisa Caryn |
Publisher | Cardiff University |
Source Sets | Ethos UK |
Detected Language | English |
Type | Electronic Thesis or Dissertation |
Source | http://orca.cf.ac.uk/73575/ |
Page generated in 0.0027 seconds