Return to search

Yr 'Hen dri ohonom' : gwrywdod, y personol a’r cyhoeddus yn y cyfeillgarwch rhwng D.R. Daniel, Tom Ellis ac O.M. Edwards

Ffocws y traethawd hwn yw’r berthynas rhwng D.R. Daniel, Tom Ellis ac O.M. Edwards. Roeddent oll yn ddynion cyhoeddus amlwg yn eu dydd, ond roedd cwlwm cyfeillgarwch ar lefel bersonol wedi’i hen sefydlu rhyngddynt yn ystod cyfnod bachgendod. Ystyried natur, a mesur dyfnder yr ymlyniad hwn a wneir yn yr astudiaeth hon gan gyfeirio at gyfeillgarwch Daniel a David Lloyd George yn ogystal er mwyn cyfoethogi’r ddadl, a chynnig gwrthgyferbyniad. Cynigir mewnwelediad dynol i gymeriadau a phrofiadau Daniel, Ellis, Edwards a Lloyd George wrth ystyried eu dealltwriaeth hwy o bersonoliaethau’i gilydd a’r modd yr oeddent yn cyflwyno eu hunain i’w cyfeillion yn eu gohebiaeth. Ymhellach, cyfrenir at y feirniadaeth o’r cysyniad o sfferau ar wahân o safbwynt cyfeillion gwrywaidd. Dengys y modd y bu i Daniel, Ellis ac Edwards rannu profiadau cyhoeddus a phersonol gyda’i gilydd ar hyd taith bywyd. Plethwyd eu profiadau wrth iddynt groesi trothwyon academaidd a gyrfaol ynghyd â phriodi a sefydlu teulu. Canolbwynt yr astudiaeth hon yw mesur a chloriannu dyfnder y rhwym a fodolai rhwng Daniel, Ellis ac Edwards, ynghyd â Daniel a Lloyd George. Dadleuir bod ymlyniad hynod ddwfn rhyngddynt a adlewyrchir yn y modd y byddent yn troi at ei gilydd am gynhaliaeth mewn cyfnodau heriol. Mae’r datganiadau emosiynol, y gofal gwirioneddol a’r syniad o alar a cholled pan ddaw’r cyfeillgarwch i ben yn cyflwyno gwedd newydd ar y cysyniadau o wrywdod a chyfeillgarwch rhwng dynion ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Gosodir y perthynasau rhwng y dynion dan sylw yn eu cyd-destun gan ystyried y modd roedd rhywdweithiau teuluol ehangach wedi eu sefydlu o ganlyniad i’w cyfeillgarwch, er i raddau amrywiol. Dyma arddangos lefel y cysylltiad rhwng Daniel, ei gyfeillion a’u iii teuluoedd sy’n cyfoethogi’n dealltwriaeth o’r ymlyniad rhyngddynt a gwmpasai brofiadau personol a chyhoeddus.

Identiferoai:union.ndltd.org:bl.uk/oai:ethos.bl.uk:646296
Date January 2014
CreatorsJones, Manon
PublisherCardiff University
Source SetsEthos UK
Detected LanguageEnglish
TypeElectronic Thesis or Dissertation
Sourcehttp://orca.cf.ac.uk/72788/

Page generated in 0.0015 seconds